Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol, ac mae mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Daeth ein gwaith ymchwil rhagorol yn 5ed am ansawdd ac yn 2il am effaith ymysg prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysgol rhagorol i'n myfyrwyr a recriwtio myfyrwyr o bob haen o gymdeithas. Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a'n partneriaethau yn rhan hanfodol o bwy ydym. Ein huchelgais yw cydweithio'n agos gyda phrifysgolion rhyngwladol i hyrwyddo ymchwil, rhannu ymarfer gorau o ran addysgu a rheoli, a sefydlu ein safle fel prifysgol fyd-eang. Drwy roi pwyslais ar greadigrwydd a chwilfrydedd, ein nod yw cyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Caerdydd.
- website: http://www.cardiff.ac.uk
- facebook: https://www.facebook.com/cardiffuni
- twitter: https://twitter.com/cardiffuni
- linkedin: http://www.linkedin.com/school/cardiff-university